#

Y Pwyllgor Deisebau | 23 Hydref 2018
 Petitions Committee | 23 October 2018
 ,Deiseb: P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio 

 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-843

Teitl y ddeiseb: Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n rhoi mwy o hawliau i drydydd partïon apelio penderfyniadau cynllunio. Ar hyn o bryd, ystyrir bod hyd yn oed y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn drydydd partïon i geisiadau cynllunio a gymeradwyir ac nad oes ganddynt fawr o hawl, os o gwbl, i apelio na hyd yn oed cynnig mewnbwn i amodau cynllunio. Mae'r broses adolygu barnwrol wedi'i hanelu at ddatblygwyr ac nid yw'r terfyn amser o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno cais o'r fath yn addas ar gyfer grwpiau gweithredu cymunedol. Dylai fod gan drydydd partïon yr un hawliau â datblygwr i apelio penderfyniadau cynllunio ac ni ddylai fod rhaid iddynt anfon pob cyfathrebiad drwy law'r aelod ward etholedig.[HE(CyC|AC1] 

Y cefndir

Nid oes hawl trydydd parti i apelio yn erbyn penderfyniadau cynllunio yng Nghymru. O dan y system gynllunio bresennol, yr ymgeisydd a'r awdurdod cynllunio lleol yw'r prif bartïon i apêl a chaiff partïon eraill a chanddynt fuddiant eu dosbarthu fel trydydd parti.

Caiff ymgeiswyr apelio ar ystod o seiliau, gan gynnwys pan fo'r awdurdod cynllunio lleol wedi gwrthod caniatâd cynllunio neu wedi cymeradwyo caniatâd cynllunio, ond gosod amodau.

Camau Llywodraeth Cymru

Roedd y gwaith paratoi cyn datblygu'r Bil a ddaeth yn Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (y Ddeddf Gynllunio), yn cynnwys adolygiad o'r system gynllunio yng Nghymru gan Grŵp Cynghori Annibynnol (GCA). Roedd gwaith yr GCA yn trafod hawliau apelio trydydd partïon a chyflwynwyd adroddiad i Lywodraeth Cymru yn 2012.[HE(CyC|AC2] 

Daeth yr GCA i'r casgliad nad oedd y risg o orlwytho'r system gynllunio'n cyfiawnhau unrhyw fantais a geir o gyflwyno hawliau apelio trydydd parti. Yn lle hynny, nododd fod ymgysylltiad cyhoeddus gwell wrth lunio Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) ac ymgynghoriad cymunedol cyn ymgeisio ffurfiol ar gyfer ceisiadau cynllunio mawr yn ddulliau ymgysylltu cymunedol mwy priodol.

Mae adroddiad yr GCA yn dweud y canlynol:

3.45 In our view such a significant change risks overburdening the system and shifting resources away from decision and plan making. We believe that the arguments in favour do not justify the burden that would be placed on the Planning Inspectorate and LPA [local planning authority] planning officers. We are satisfied that the problem applications cited to us during the debate are not the norm and do not justify the shift of resources implied by the introduction of third party appeals. We do not consider that a third party appeal right would benefit those sections of the community who are traditionally seldom heard. Resourcing confidence in the planning system is a better solution. Most importantly, none of those arguing in favour were able to produce a set of clear criteria that did not run the risk of abuse of the right of appeal by people acting in a vexatious manner.

3.46 Our conclusion is that measures are needed to ensure those who may be affected by a development are made aware of it from the earliest stage and those who consider they might be affected are given every opportunity to be heard. Front loading the planning process and involving third parties in planning decisions from the earliest stages would address the types of problems that have been described to us and go some way towards improving public perception and confidence in the planning system. …

3.52 In summary, we do not consider there is a case for introducing third party rights of appeal in Wales. The issues that were raised with us can be overcome by other measures to ensure that the rights of the public to be involved in decisions affecting them are properly protected. We make a number of recommendations … designed to widen public involvement in the planning process.

Gellir gweld trafodaeth lawn yr GCA o'r mater hwn ar dudalennau 23 i 25 o'r adroddiad.[HE(CyC|AC3] 

Mae'r llythyr gan Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, at y Pwyllgor (dyddiedig 25 Medi) yn ailadrodd safbwynt yr GCA:

Since that time [of the IAG report] no persuasive evidence has emerged to suggest the introduction of a third party right of appeal would be a step forward or an improvement in the panning system. We remain of the view, therefore, it would not be appropriate to introduce such changes to the planning appeals process. Ensuring we have up to date LDPs which have been subject to comprehensive public engagement is the best way to ensure the rights of all groups are taken into account when planning decisions are made.

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Wrth basio Bil y Ddeddf Gynllunio drwy'r Pedwerydd Cynulliad, cafodd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar y pryd rywfaint o dystiolaeth o blaid cyflwyno hawl apelio trydydd parti mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft pan fo cymeradwyaeth yn groes i CDLl mabwysiedig yr ardal. Fodd bynnag, penderfynodd y Pwyllgor yn erbyn gwneud argymhelliad yn y maes hwn yn ei Adroddiad Cyfnod 1.[HE(CyC|AC4] 

Fel y nodwyd yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet, hefyd wrth basio'r Bil drwy'r Cynulliad, cynigiodd Aelodau'r Gwrthbleidiau welliannau arfaethedig i gynnwys hawl apelio gymunedol yn y Ddeddf. Gwrthodwyd y gwelliannau, felly ni chawsant eu cynnwys yn y Ddeddf.[HE(CyC|AC5] 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.

 


 [HE(CyC|AC1]P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

 

Geiriad y ddeiseb

​​​​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n rhoi mwy o hawliau i drydydd partïon apelio penderfyniadau cynllunio. Ar hyn o bryd, ystyrir bod hyd yn oed y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn drydydd partïon i geisiadau cynllunio a gymeradwyir ac nad oes ganddynt fawr o hawl, os o gwbl, i apelio na hyd yn oed cynnig mewnbwn i amodau cynllunio. Mae’r broses adolygu barnwrol wedi’i hanelu at ddatblygwyr ac nid yw’r terfyn amser o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno cais o’r fath yn addas ar gyfer grwpiau gweithredu cymunedol. Dylai fod gan drydydd partïon yr un hawliau â datblygwr i apelio penderfyniadau cynllunio ac ni ddylai fod rhaid iddynt anfon pob cyfathrebiad drwy law’r aelod ward etholedig.

 

 [HE(CyC|AC2]Dim cymraeg

 [HE(CyC|AC3]Dim cymraeg

 

 [HE(CyC|AC4]http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=11271

 

 [HE(CyC|AC5]http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=11271